Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 3 Mawrth 2022
Amser:
09.32 -
14.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12635
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Paul Davies AS (Cadeirydd) Hefin David AS Luke Fletcher AS Vikki Howells AS Samuel Kurtz AS Sarah Murphy AS |
Tystion: |
David Chapman, UK Hospitality Cymru Iestyn Davies, Colegau Cymru Suzy Davies, Cynghrair Twristiaeth Cymru Michael Gasiorek, Ysgol Fusnes Prifysgol Sussex Sara Jones, Consortiwm Manwerthu Cymru Sam Lowe, Flint Global Jeff Protheroe, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru Arwyn Watkins, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru James Scorey, Coleg Caerdydd a’ r Fro Emily Rees, Y Ganolfan Ewropeaidd ar gyfer Economi Wleidyddol Ryngwladol Shavanah Taj, TUC Cymru Michael Bewick, Fforwm Twristiaeth Gogledd Cymru Mark Turner, Unite Dr Victoria Winckler, Sefydliad Bevan |
Staff y Pwyllgor: |
Robert Donovan (Clerc) Lara Date (Ail Glerc) Robert Lloyd-Williams (Dirprwy Glerc) Aled Evans (Cynghorydd Cyfreithiol) Rhun Davies (Ymchwilydd) Ben Stokes (Ymchwilydd) Gareth David Thomas (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Nid oedd dim ymddiheuriadau na dirprwyon.
1.2 Datganodd Sarah Murphy fuddiant fel aelod o Unite the Union a hefyd o Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol. Datganodd Sam Kurtz fuddiant fel cadeirydd ffermwyr ifanc Sir Benfro a chyfarwyddwr Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru fel ymddiriedolaeth elusennol.
2 Papur(au) i'w nodi
Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd
2.2 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
2.3 Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
2.4 Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
2.5 Llythyr gan Weinidog yr Economi
2.6 Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
2.7 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
2.8 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus
2.9 Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
2.10Llythyr gan y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg
2.11Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
2.12Llythyr gan y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg
2.13Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
2.14Llythyr gan Huw Morris, Cyfarwyddwr Grŵp SHELL, Llywodraeth Cymru
2.15Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
3 Materion lletygarwch, manwerthu a thwristiaeth - Cynrychiolwyr busnes
3.1 Atebodd y tystion gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor
4 Materion lletygarwch, manwerthu a thwristiaeth - undebau llafur a Sefydliad Bevan
4.1 Atebodd y tystion gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor
5 Materion lletygarwch, manwerthu a thwristiaeth - y sector sgiliau
5.1 Atebodd y tystion gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor
5.2 Byddai Iestyn Davies o Golegau Cymru yn rhoi copi i’r Pwyllgor o’i adroddiad ymchwil “Gamwn, wy a sglodion mewn tafarn nos ar ôl nos”
6 Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU ac Awstralia
6.1. Cyfeiriodd Sam Kurtz eto at ei gysylltiadau â chlybiau ffermwyr ifanc Sir Benfro ac at y ffaith ei fod yn fab i ffermwr cig eidion. Atebodd y tystion gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig
8 Preifat
8.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y sesiwn.
8.2 Trafododd y Pwyllgor y papur ar Fframweithiau Cyffredin a chytunwyd i roi blaenoriaeth i graffu ar y tri Fframwaith ar Gymorth Amaethyddol; Gwrteithiau; ac Iechyd a Lles Anifeiliaid, a chael papurau briffio technegol arnynt yn y cyfarfod dilynol.
8.3 Byddai'r Pwyllgor hefyd yn craffu ar y fframwaith Rheoli a Chefnogi Pysgodfeydd fel rhan o'i drafodaethau ar y Cyd-ddatganiad drafft ar Bysgodfeydd.